Y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi dogfen sy’n amlinellu’r camau a fydd yn cael eu cymryd i oresgyn y problemau sy’n tarddu o ddefnydd pobl ifanc o alcohol.
Y mae’r ddogfen yn cynnwys amryw o bwyntiau gweithredu sy’n berthnasol i Gymru, yn enwedig y rhai hynny sy’n cyfeirio at faterion cyfraith a threfn. Y mae hyn yn cynnwys bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu, yn amodol ar gymeradwyaeth Senedd y DU, i wneud hi’n drosedd i bobl ifanc o dan 18 mlwydd oed feddu’n gyson ar alcohol mewn man cyhoeddus ac i sicrhau bod gan yr heddlu’r grymoedd gorfodi y mae arnynt eu hangen i fynd i’r afael ag yfed gan bobl ifanc mewn mannau cyhoeddus.
Fe ellir lawrlwytho’r Cynllun Gweithredu oddi ar wefan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.
Fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddiweddar ymgynghori ynglŷn â’u strategaeth camddefnyddio sylweddau eu hunain, ‘Gweithio gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’ , sy’n amlinellu’r camau y maent yn bwriadu’u cymryd i leihau’r niwed a achosir i unigolion a theuluoedd drwy gamddefnydio cyffuriau ac alcohol.