Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
    • Dogfennau Strategaeth & Cynlluniau Gweithredu
    • Ymatebion a Safonau’r Llywodraeth
    • Canllawiau, Cylchlythyrau a Safonau
    • Ymchwil ac Adroddiadau eraill
    • Llyfrynnau a Thaflenni
    • Ystadegau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Paratoi Prydain am y Dyfodol: Rhaglen Ddeddfwriaethol ddrafft y Llywodraeth 2008-09, 14/05/08 [C/Ll/GI/A]
Paratoi Prydain am y Dyfodol: Rhaglen Ddeddfwriaethol ddrafft y Llywodraeth 2008-09, 14/05/08 [C/Ll/GI/A]

Y mae’r ddogfen hon yn amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol ddrafft y Llywodraeth am 2008-09. Fe fydd yna ymgynghori ar lawer o’r mesurau a gynigir yn ystod y misoedd sydd i ddod. 

Mesurau allweddol a all effeithio ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yw:

Y Mesur Addysg a Sgiliau
Fe fydd hwn yn hyrwyddo "mynediad teg" at ysgolion ac yn gwella perfformiad yr ysgolion gwannaf.  Fe fydd yn rhoi’r hawl i rieni gael gwybodaeth reolaidd am hynt a chynnydd plant, rhoi’r hawl i weithwyr ofyn i gyflogwyr am hyfforddiant, creu cyfundrefn gymwysterau annibynnol.  Y mae’n ymdrin â: Rhai rhannau, y DU i gyd; rhai Lloegr yn unig; eraill Cymru a Lloegr yn unig; neu Loegr, Cymru a Gogledd yr Iwerddon yn unig.

Y Mesur Cydraddoldeb  
Fe fydd hwn yn cyflwyno dyletswydd cydraddoldeb unigol ar gyfer pob corff cyhoeddus a mesurau i wella gorfodaeth.  Y mae’n ymdrin â: Lloegr, Cymru a’r Alban.

Y Mesur Diwygio Lles  
Fe fydd pobl sydd wedi bod yn ddi-waith dros yr hirdymor yn cael eu gorfodi i ddechrau cyrsiau hyfforddi neu wynebu gostyngiadau mewn budd-daliadau - fe fydd pob person di-waith yn cael asesiad o’u sgiliau pan fônt yn hawlio am y tro cyntaf.  Y mae’n ymdrin â: Lloegr, Cymru a’r Alban.

Y Mesur Plismona a Gostwng Troseddau  
Fe fydd hwn yn cynnwys darpariaethau i roi rôl gryfach i aelodau’r cyhoedd gyda llunio penderfyniadau drwy gynrychiolwyr sydd wedi’u hethol yn uniongyrchol.  Y mae’n ymdrin â: Y mae rhai rhannau’n ymdrin â’r DU i gyd, nid yw eraill.

Y Mesur Diwygio’r Gyfraith, Dioddefwyr a Thystion
Fe fydd hwn yn cyflwyno gwahanol raddfeydd o laddiad, yn cynnwys cythrudd, dim yn llawn gyfrifol, cydgynllwynio a babanladdiad – yn ddarostyngedig i ymgynghori. Y mae’n ymdrin â: Fe fydd yn amrywio ar gyfer gwahanol rannau o’r Mesur.

Y Mesur Dinasyddiaeth, Mewnfudo a Ffiniau
Fe fydd yn cefnogi sefydlu Asiantaeth Ffiniau’r DU a chynllun dinasyddiaeth a enillwyd.  Symleiddio deddfau mewnfudo presennol.  Y mae’n ymdrin â: Y DU i gyd. 

Y Mesur Crwneriaid a Thystysgrif Marwolaeth
Fe fydd hwn yn sefydlu gwasanaeth crwneriaid cenedlaethol, gyda chrwneriaid llawn amser yn gweithio hyd at safonau gofynnol a hawl i apelio ar gyfer teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth.  Archwilwyr meddygol newydd i archwilio achos y farwolaeth a roddwyd gan feddygon.  Y mae’n ymdrin â: Cymru a Lloegr yn unig, gyda rhai mân ddarpariaethau yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon.

Fe ellir lawrlwytho’r ddogfen oddi ar wefan y TSO.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Paratoi Prydain am y Dyfodol: Rhaglen Ddeddfwriaethol ddrafft y Llywodraeth 2008-09, 14/05/08 [C/Ll/GI/A]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence