Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
    • Dogfennau Strategaeth & Cynlluniau Gweithredu
    • Ymatebion a Safonau’r Llywodraeth
    • Canllawiau, Cylchlythyrau a Safonau
    • Ymchwil ac Adroddiadau eraill
    • Llyfrynnau a Thaflenni
    • Ystadegau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Cynllun Cyflenwi Cymru’n Un, 2007-2011, 08/04/08 [C]
Cynllun Cyflenwi Cymru’n Un, 2007-2011, 08/04/08 [C]

Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio cynllun yn amlinellu sut y bydd pob un ymrwymiad yn y ddogfen Cymru’n Un yn cael ei gyflawni.

Y mae’r Cynllun Cyflenwi yn nodi’r holl 228 o ymrwymiadau cyflawni penodol yn y ddogfen Cymru’n Un, a ffurfiodd sail y llywodraeth glymblaid, ac y mae’n amlinellu’r hyn y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i gyflawni pob un ohonynt, yn cynnwys cerrig milltir allweddol o ran cyflawni.

Fe ellir lawrlwytho’r ddogfen oddi wrth wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Y mae’r ymrwymiadau sy’n effeithio ar blant yn cynnwys:

Iechyd

  • Isafswm o un nyrs teulu i bob ysgol uwchradd erbyn diwedd tymor y Cynulliad.
  • Blaenoriaeth newydd i iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc

Gofal Cymdeithasol

  • Ceisio mwy o bwerau i ddeddfu ar gyfer plant sy’n agored i niwed, plant sy’n derbyn gofal a thlodi plant
  • Adolygu Strategaeth Gofalwyr, paratoi deddfwriaeth ar hawliau gofalwyr

Trafnidiaeth

  • Deddfwriaeth ar well cludiant i ysgolion a buddsoddi mewn llwybrau diogel i’r ysgol

Addysg

  • Hawl i addysg a hyfforddiant hyd at 18 oed, gydag arian newydd yn gefn
  • Strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg gyda rhaglen weithredu yn gefn iddi. Sefydlu Rhwydwaith Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg.
  • Trefniadau cyllido addysg diwygiedig
  • Gostyngiad ym maint dosbarthiadau
  • Cefnogi datblygu ysgolion cymunedol
  • Mwy o adnoddau ar gyfer AG mewn ysgolion, hybu cadw caeau chwarae
  • Peilotio gliniaduron i blant
  • Deddfwriaeth ar anghenion dysgu ychwanegol
  • Ymchwilio i ddieithrio o ddysgu
  • Datblygu strwythur cenedlaethol i gynorthwywyr dosbarth
  • Datblygu strwythur cenedlaethol i gynorthwywyr dosbarth
  • Cefnogi cynlluniau peilot ar gyfer ysgolion Sadwrn a haf ar gyfer chwaraeon, cerddoriaeth a’r celfyddydau
  • Ymchwilio i weld sut i gydnabod a gwobrwyo gwirfoddoli gan bobl ifanc
  • Asesu effaith mewnfudo, yn enwedig o wledydd newydd y gymuned Ewropeaidd, ar addysg

Gofal Plant

  • Bwrw ymlaen â darparu gofal plant cyffredinol fforddiadwy gyda chefnogaeth ychwanegol gan gynnwys gofal plant estynedig llawn-amser am ddim o safon uchel i blant 2 flwydd oed yn yr ardaloedd lle mae’r angen fwyaf

Cydraddoldeb

  • Gweithio i wneud y corff cydraddoldeb unigol newydd yng Nghymru yn llwyddiant
  • Gweithredu strategaeth Cymru gyfan ar sipsiwn a theithwyr
  • Mireinio a gweithredu strategaeth cynnwys ffoaduriaid, gan gynnwys buddiannau plant ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches

Cydlyniant Cymunedol

  • Unedau dinasyddiaeth gadarnhaol yn ardal pob awdurdod lleol
  • Datblygu a gweithredu strategaeth lleihau alcohol
  • Dwyn ymlaen adroddiad ar wasanaeth cwnsela cam-drin sylweddau. Ystyried mabwysiadu modelau peilot lleihau niwed sydd ar y gweill yn Lloegr
  • Adolygu effeithiolrwydd rhaglenni addysg lleihau niwed mewn ysgolion

Datblygiad Cymdeithasol

  • Datblygu Cymunedau’n Gyntaf yn gyfnod Cymunedau Nesaf

Tlodi Plant

  • Cefnogi’r nod o haneru tlodi plant erbyn 2010 a’i ddileu erbyn 2020
  • Bond plant ychwanegol i bob plentyn sy’n dod i’r ysgol
  • Dyletswydd ar asiantaethau cyhoeddus i wneud a dangos ymrwymiad i ddiweddu tlodi plant
  • Sefydlu grŵp arbenigol i ymdrin â gofynion polisi fydd eu hangen i gwrdd â thargedau Dileu Tlodi plant yng Nghymru
  • Adolygu rhaglenni gwrthdlodi presennol yng Nghymru
  • Mabwysiadu Cynllun Gofodol Cymru fel pecyn cymorth integreiddio
  • Sefydlu undebau credyd ym mhob rhan o Gymru. Mynediad at undeb credyd i bob ysgol uwchradd erbyn 2011
  • Datblygu mwy ar all undebau credyd Cymru i gymryd adneuon cyfrifon cronfa ymddiriedolaeth plant

Cyfiawnder Ieuenctid

  • Parhau i flaenoriaethu ymyriad ataliol ac atebion nad ydynt yn golygu carcharu mewn perthynas â throseddu ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid
  • Ystyried modelau o arfer trawsbynciol rhwng cyfiawnder ieuenctid, addysg, tai a gwasanaethau iechyd meddwl
  • Ystyried y dystiolaeth dros ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol yng nghyd-destun datganoli cyllido, a symudiadau i sefydlu un weinyddiaeth gyfiawnder yng Nghymru

Diwylliant, Iaith a Chwaraeon

  • Plant i gael mynediad am ddim i safleoedd treftadaeth a gyllidir gan y Cynulliad
  • Ymestyn y cynllun nofio plant – pob plentyn i gael y cyfle i ddefnyddio cyfleuster chwaraeon neu hamdden neu bwll nofio am ddim dros y penwythnos
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Cynllun Cyflenwi Cymru’n Un, 2007-2011, 08/04/08 [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence