Ar 20fed penblwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio cynllun gweithredu sy’n amlinellu’r camau y maent yn bwriadu’u cymryd i wneud hawliau plant a phobl ifanc yn realiti dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r Cynllun Gweithredu, ‘Gwneud Pethau’n Iawn’, sydd wedi’i gyhoeddi mewn ymateb i Arsylwadau Casgliadol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 2008, yn amlinellu 90 o weithredoedd allweddol ledled ystod eang o feysydd polisi, yn cynnwys:
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud y bydd y Cynllun Gweithredu yn ddarostyngedig i gael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn cadw’n gyfoes â datblygiadau newydd mewn polisi a strategaeth.
Mae’r Cynllun Gweithredu ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.