Datblygwyd y cynllun er mwyn darparu gwybodaeth i gyrff statudol, y trydydd sector a sefydliadau cymunedol ynglyn â dull gweithredu strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn lleihau hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru.
Mae’n nodi’r camau a fydd yn cael eu cymryd yn genedlaethol, ac mae’n gofyn i wasanaethau sy’n gweithredu’n lleol (awdurdodau lleol) gydgysylltu gweithredoedd yn unol â’r cynllun.
Bydd y cynllun gweithredu pum mlynedd yn codi ymwybyddiaeth am hunanladdiad a hunan-niwed ac yn helpu pobl i ddeall bod modd ei atal yn aml. Yn bennaf, anelir y cynllun at bobl sydd yn y perygl mwyaf. Mae iddo saith ymrwymiad allweddol:
Fe ellir lawrlwytho’r dogfen oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.