Y mae’r Strategaeth hon yn darparu trosolwg cryno ar iechyd plant yn gysylltiedig â’u hamgylchedd yn y Deyrnas Unedig, ac y mae’n argymell meysydd y dylid bwrw ymlaen â hwy er mwyn diogelu a hybu iechyd plant ac i fodloni ymrwymiad y Deyrnas Unedig i’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Amgylchedd ac Iechyd Plant Ewrop (CEHAPE).
Y mae CEHAPE yn fenter o dan arweiniad Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd. Fe’i lansiwyd ym mis Mehefin 2004 ac fe’i llofnodwyd gan bob un o’r 53 o’r aelod-wladwriaethau yn Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, yn cynnwys y Deyrnas Unedig. Nod y CEHAPE yw diogelu iechyd plant a phobl ifanc rhag peryglon amgylcheddol.
Fe gafodd y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth ei oleuo gan ymgynghoriad cyhoeddus yn 2008.
Y mae’r strategaeth ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd.