Yr oedd y Cynllun Gweithredu ar Droseddau Ieuenctid, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2008, yn cynnwys set o ymrwymiadau ac ymyriadau i roi sylw i wahanol agweddau o droseddau ieuenctid. Fe ymhelaethir ar y rhain yn y llawlyfr hwn, ac y maent yn cwmpasu gweithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu ac awdurdodau lleol, gweithwyr ieuenctid a thimau troseddau ieuenctid; mwy o weithgareddau gwneud iawn; yr heddlu’n patrolio ar ôl ysgol; cefnogaeth i ddioddefwyr ieuainc, a chymorth i deuluoedd ac ymyrraeth.
Y mae’r llawlyfr ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Swyddfa Gartref.