Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio cynllun gweithredu newydd i wella ymddygiad a phresenoldeb yn ysgolion Cymru.
Ymateb ydyw i’r Adolygiad o Ymddygiad a Phresenoldeb (NBAR) gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai 2008 gan yr Athro Ken Reid a’i Grŵp Adolygu annibynnol.
Mae’r Cynllun yn cydnabod bod nifer o bethau y gellid eu gwneud i wella ymddygiad a phresenoldeb – o godi lefelau llythrennedd pobl ifanc i wella’r hyfforddiant i athrawon. Mae’r cynllun hefyd yn pwysleisio rôl bwysig rhieni wrth weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a chymundau lleol i wella sut mae pobl ifanc yng Nghymru yn ymddwyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.