Y mae ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos bod nifer y plant sy’n byw mewn tlodi yn y Deyrnas Unedig wedi codi am yr ail flwyddyn.
Ledled y Deyrnas Unedig, fe gododd nifer y plant sy’n byw mewn tlodi 100,000 yn 2006-2007 i 2.9 miliwn cyn costau tai. Yng Nghymru, y mae 25% o blant – 150,000 – yn byw mewn tlodi cyn bod costau tai’n cael eu cymryd i ystyriaeth, cynnydd o 144,000 ers y flwyddyn flaenorol.
Yn 1999, fe addawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig haneru tlodi ymysg plant erbyn 2010 a’i ddileu erbyn 2020. Y mae economegwyr yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi dweud y byddai’n rhaid i’r Trysorlys ganfod £2.8 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn i gael "siawns hanner yn hanner" o daro’r targed.
Fe ellir lawrlwytho’r ystadegau oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.