Mae’r ffigurau hyn, a gyhoeddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn darparu cymhariaeth o gyllidebau addysg awdurdodau lleol rhwng Cymru a Lloegr. Maent yn dangos mai’r gwariant cyfartalog sydd wedi’i gyllidebu am bob disgybl mewn addysg awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2009-10 oedd £5,429. Mae hyn yn gynnydd o 2.8% ers y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’n £527 y disgybl yn is nag yn Lloegr.
Fe ellir lawrlwytho’r ystadegau oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.