Fe wariodd aelwydydd y Deyrnas Unedig gyfartaledd o £471 yr wythnos yn 2008, o gymharu â £459 yn 2007.
Aelwydydd yng Nghymru a wariodd y lleiaf mewn saith categori, yn cynnwys gwariant ar gludiant o £56.20 yr wythnos, o gymharu â chyfartaledd o £62.00. Fe wnaethant wario £30.90 yr wythnos ar fwytai a gwestai, o gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig o £37.50.
Mae’r datganiad llawn ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.