Y mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynhyrchu papur ymchwil newydd – Mewn Ffigurau: Dangosyddion Cymdeithasol.
Y mae’r papur hwn yn darparu trosolwg ystadegol ar ystod o faterion cymdeithasol.
Y mae pynciau yr ymdrinnir â hwy yn cynnwys troseddau, addysg, iechyd, tai a nawdd cymdeithasol.
Y mae’r papur hwn yn rhan o’r gyfres Mewn Ffigurau, sydd â’r nod o ddarparu portread ystadegol o amryw o faterion cymdeithasol ac economaidd allweddol.