Y mae adroddiad newydd, a gyhoeddir gan y gronfa syniadau annibynnol, Civitas, yn dadlau bod twf polisïau amddiffyn plant, archwiliadau cefndir gan yr heddlu a gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn gwenwyno’r berthynas rhwng y cenedlaethau ac yn niweidio’r sector gwirfoddol.
Y mae’r adroddiad yn dadlau bod y diwylliant archwilio cefndiroedd yn annog anghymell risg, a thrwy hynny’n esgor ar deimlad ei bod hi’n well anwybyddu pobl ifanc, hyd yn oed os oes arnynt angen cymorth, na mentro wynebu cyhuddiadau o ymddygiad amhriodol.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Civitas.