Y mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi’i adroddiad ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor (Lles Cymdeithasol a Meysydd Eraill).
Diben y Gorchymyn arfaethedig yw ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud deddfau newydd i Gymru drwy Fesur sy’n gysylltiedig â phlant sy’n agored i niwed.
Yn ei adroddiad, y mae’r Pwyllgor yn nodi na fyddai’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno Mesur i gael gwared ag amddiffyniad "cosbi rhesymol" yn ymwneud â chosbi plant.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth ddatganiad y Pwyllgor i’r wasg.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r adroddiad llawn.