Y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy’n dangos bod 88% o famau sy’n gweithio wedi derbyn rhyw fath o dâl mamolaeth.
Y mae’r ymchwil yn darparu darlun hollol gyfoes o brofiadau mamau o hawliau a budd-daliadau mamolaeth a sut y mae’r rhain yn effeithio ar eu penderfyniadau gwaith.
Fe ellir lawrlwytho’r ymchwil oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.