Dyma adroddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gynnydd ynglŷn â gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Y mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar gynnydd a wnaed ers i’r CU ystyried cynnydd y Deyrnas Unedig y tro diwethaf ynglŷn â gweithredu’r Confensiwn yn 2002. Dyma’r tro cyntaf y mae Cymru wedi cynhyrchu’i hadroddiad ei hun ar gynnydd ynglŷn â’r Confensiwn.
Y mae’r adroddiad wedi’i lunio yn ôl y canllawiau a amlinellir gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac y mae’n ystyried:
• Mesurau cyffredinol o ran gweithredu • Egwyddorion cyffredinol• Hawliau a Rhyddid Sifil• Amgylchedd y teulu a gofal amgen • Iechyd a lles sylfaenol• Addysg, hamdden a gweithgareddau diwylliannol • Mesurau amddiffyn arbennig.Fe ellir llwytho’r adroddiad, ynghyd â fersiwn ar gyfer pobl ifanc, i lawr oddi ar wefan y Cynulliad neu cysylltwch â:
Jane HanburyTîm Fframwaith y PlantLlywodraeth Cynulliad CymruParc Cathays CaerdyddCF10 3NQ
Ffôn: 02920 825101E-bost: CFT@wales.gsi.gov.uk
Y mae mwy o wybodaeth am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar gael yn adran Confensiwn y CU o’r wefan hon.