Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
    Dogfennau Strategaeth & Cynlluniau Gweithredu
    Ymatebion a Safonau’r Llywodraeth
    Canllawiau, Cylchlythyrau a Safonau
    » Ymchwil ac Adroddiadau eraill
    Llyfrynnau a Thaflenni
    Ystadegau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
  • Cyfranogi
  • Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
  • Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Polisi »Dogfennau »Ymchwil ac Adroddiadau eraill »Ein Cadw’n Ddiogel: Adroddiad o’r Adolygiad o Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed, 03/05/06, [C]
Ein Cadw’n Ddiogel: Adroddiad o’r Adolygiad o Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed, 03/05/06, [C]

Cyhoeddwyd adroddiad o’r Adolygiad o Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed ar y 3ydd o Fai 2006. Fe sefydlwyd yr adolygiad i asesu cynnydd y ddarpariaeth o wasanaethau gyferbyn â pholisïau a chanllawiau a mentrau eraill a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.  Fe gafodd ymchwil ac adroddiadau perthnasol hefyd eu harchwilio yn yr Adolygiad.

Y mae’r adolygiad yn nodi rhai o’r mentrau cadarnhaol drwy Gymru i gyd, yn ogystal â chanolbwyntio ar y gwaith a erys i’w wneud.  Fe amlygir y meysydd a ganlyn yn yr adroddiad fel meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt:

  • gwell cynllunio ar y ddarpariaeth o wasanaethau, costiad cywir, cyllido realistig a gwelliant mewn logisteg gweithredu
  • rôl wedi’i chryfhau ar gyfer y Gweinidog dros Blant
  • y mae angen pwyllgor craffu materion plant gyda grymoedd i archwilio materion sy’n effeithio ar blant
  • anghysondebau o fewn a rhwng cyfundrefnau a gwasanaethau sy’n effeithio ar blant
  • y mae angen cael cysondeb o ran lefel ac ansawdd gwasanaethau ar gyfer plant ledled Cymru 
  • fe ddylai gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer y sawl y mae arnynt eu hangen, gan gynnwys plant sydd wedi’u cam-drin, fod yn y mae angen canfod plant sy’n agored i niwed sydd wedi’u cam-drin yn gorfforol ac yn emosiynol, ac ymateb iddynt yn gynharach.  

Y mae’r argymhellion a wnaed gan yr Adolygiad yn ymdrin â gwasanaethau statudol a gwirfoddol ar gyfer plant ac y maent yn cael eu nodi fel amryw o heriau.  Y mae’r heriau hyn yn cynnwys:

  • adeiladu ar fentrau sy’n rhoi plant yng nghanol datblygiad polisi a gwasanaethau sy’n effeithio arnynt
  • rhoi sylw i agweddau dryslyd ac anghyson y cyhoedd tuag at blant yn ein cymdeithas
  • gwella lefelau, sefydlogrwydd, hyder, cymhwysedd, cefnogaeth a boddhad gwaith y gweithlu
  • datblygu a gweithredu gweledigaeth a strategaeth integredig hirdymor sicr ar gyfer gwasanaethau cyson ar gyfer plant sy’n agored i niwed
  • adolygu, gwerthuso a symleiddio cydbwysedd buddsoddiad mewn gwasanaethau ar gyfer plant ac atgyfnerthu a sefydlogi ffrydiau cyllido
  • datblygu gallu mwy effeithiol ar gyfer canfod ac ymateb i beryglon sy’n codi i blant sy’n agored i niwed.

Y mae fersiwn ar gyfer plant a phobl ifanc o’r adroddiad hefyd ar gael.

Cliciwch yma i gael golwg ar dudalen we y Cunulliad ar yr adolygiad.

Adnoddau Cysylltiol
:Ein Cadw'n Ddiogel: Adolygiad o Ddiogelu Plant sy'n Agored i Niwed
:Ein Cadw'n Ddiogel Crynodeb Gweithredol
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313