Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, corff gwarchod gofal iechyd annibynnol Cymru, bellach wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2010-2011.
Rôl yr Arolygiaeth yw rhoi sicrwydd i gleifion a’r cyhoedd bod gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn ddiogel ac o ansawdd dda. Mae hyn yn golygu cynnal ymchwiliadau ac arolygiadau i ansawdd y gofal iechyd a ddarperir gan y GIG a chyrff gofal iechyd annibynnol.
Mae’r adroddiad yn adolygu’r gwaith sydd wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn disgrifio’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae modd lawrlwytho’r adroddiad o wefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.