Yr adolygiad hwn o lenyddiaeth, a gyhoeddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yw cam cyntaf y gwerthusiad o’r Rhwymedigaethau ar gyfer Rhieni Unigol.
Mae’n ystyried effaith newidiadau polisi rhyngwladol cyffelyb sydd wedi’u gwneud, gyda golwg i hysbysu a goleuo’r gwaith o werthuso’r RhRhU, yn ogystal â chynllunio a gweithredu polisi yn y dyfodol.
‘Roedd yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth ddiweddar yn seiliedig ar dystiolaeth a phedair astudiaeth achos o wledydd mae modd eu cymharu, a ddewiswyd oherwydd ‘roedd pob un yn cynnig agweddau o bolisi ac ymarfer sy’n berthnasol i ymestyn y gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn ymwneud â rhieni unigol ym Mhrydain Fawr.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.