Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi’i adroddiad ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Trafnidiaeth) 2010.
Mae’r Pwyllgor yn cefnogi mewn egwyddor y dylai cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes hwn gael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe ddywed adroddiad y Pwyllgor y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol allu mynnu drwy gyfraith (Mesur Cynulliad) bod awdurdodau lleol ond yn defnyddio cludiant ‘cartref i ysgol’ sy’n cydymffurfio â’r safonau diogelwch uchaf.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Pwyllgor.