Mae Eurochild wedi lansio’i arolwg traws-Ewropeaidd ar blant mewn gofal amgen, sy’n cwmpasu 26 o Aelod-Wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys adran ar Gymru.
Mae oddeutu 1% o blant yn yr UE yn byw mewn gofal amgen – yn cynnwys gofal preswyl, gofal yn y gymuned a gofal gan deulu – hynny yw, oddeutu un filiwn o blant.
Mae’r ystadegau yn darparu tystiolaeth bod plant sydd wedi bod dan ofal - ac yn enwedig mewn lleoliadau gofal preswyl - yn fwy tebygol o ganfod eu hunain yn ddigartref yn y diwedd; o gyflawni troseddau; o gael plant cyn eu bod yn 20 oed eu hunain; ac o weld eu plant eu hunain yn cael eu rhoi dan ofal.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Eurochild.