Mae Achub y Plant wedi rhyddhau adroddiad sy’n datgelu bod 1.7 miliwn o blant ledled y Deyrnas Unedig yn byw mewn tlodi difrifol - oddeutu 13% o holl blant y Deyrnas Unedig.
Yng Nghymru, mae’r ffigwr hwn yn uwch na holl genhedloedd eraill y Deyrnas Unedig – yn 15%, mae hyn yn gwneud cyfanswm o 96,000 o blant sy’n byw mewn tlodi difrifol yng Nghymru.
Mae yna gyfarwyddiad sy’n canolbwyntio ar y ffigurau ar gyfer Cymru wedi’i ryddhau, ac mae ar gael i’w lawrlwytho.