Mae Estyn wedi cyhoeddi’r adroddiad hwn sy’n edrych ar sut mae ysgolion yn mynd i’r afael â thlodi ac anfantais ymysg plant. Mae’n defnyddio tystiolaeth oddi wrth adroddiadau Estyn ar fenter Rhagori (Codi Cyrhaeddiad a Safonau Addysgol Unigolion yng Nghymru), yn ogystal â thystiolaeth oddi wrth adroddiadau arolygu ar ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae’n nodi enghreifftiau o ymarfer effeithiol, ac mae’n gwneud awgrymiadau ynglŷn â rhagor o gamau y gellid eu cymryd i wella perfformiad disgyblion difreintiedig.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan Estyn.