Mae’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil ynglŷn ag ymatebion yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol plant i blant a theuluoedd sy’n profi trais teuluol.
Fe wnaeth yr ymchwil hwn archwilio’r broses hysbysu ei hun a’r llwybrau gwasanaethau dilynol, a ddilynir gan deuluoedd a ddygir i sylw’r gwasanaethau cymdeithasol plant yn y ffordd hon. Fe wnaeth hefyd archwilio pa asiantaethau eraill a gyfrannodd i wasanaethau ar gyfer teuluoedd sy’n profi trais teuluol, ac fe nododd farn pobl ifanc, goroeswyr a chyflawnwyr troseddau am wasanaethau.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.