Yn ôl arolwg ar gyfer y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant, fe allai fod plant ar eu colled oherwydd bod yna ormod o rieni yn anwybodus ynglŷn â sut i ymdrin â chynhaliaeth plant ar ôl gwahanu.
Fe ganfu’r arolwg gan Yougov o fwy na 900 o rieni wedi gwahanu sydd â phlant 18 mlwydd oed neu iau:
Mae’r arolwg yn cyd-daro gyda lansio ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo Opsiynau Cynhaliaeth Plant, y gwasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth gyhoeddus am ddim sy’n cynorthwyo rhieni wedi gwahanu i benderfynu pa drefniant cynhaliaeth plant sydd orau i’w hamgylchiadau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth y datganiad i’r wasg gan y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant.