Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi’i adroddiad blynyddol am 2008/09.
Mae’r adroddiad yn cydnabod enghreifftiau o ymarfer da, ond mae hefyd yn amlygu bod yna amrywiad mewn perfformiad yn parhau rhwng awdurdodau o ran ystod ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael ledled Cymru.
Fe godwyd pryderon parthed effeithiolrwydd byrddau lleol diogelu plant a’r broses adolygu achosion difrifol.
Mae’r adroddiad yn nodi y bydd pwysau ariannol yn golygu bod yn rhaid cael mwy o ysgogiad i gymell gwelliant a moderneiddio gwasanaethau.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.