Mae Sefydliad Joseph Rowntree a’r New Policy Institute wedi cyhoeddi’u hadroddiad blynyddol ar gyflwr tlodi ac allgáu cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig.
Fe ddengys yr adroddiad fod nifer y plant sydd ar aelwydydd incwm isel ble mae o leiaf un oedolyn yn gweithio, ar 2.1 miliwn, yr uchaf y mae wedi bod erioed.
Mae’r gyfradd diweithdra i bobl ifanc 16 i 24 mlwydd oed (hynny yw, nifer y bobl ddi-waith fel canran o’r sawl sydd naill ai’n gweithio neu’n ddi-waith) yn fwy na 18%, sy’n uwch nag ar unrhyw adeg ers 1993, pan adroddwyd yn gyntaf ar yr ystadegyn hwn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Sefydliad Joseph Rowntree.