Y mae adroddiadau gan Bwyllgor Cyllid a Phwyllgor Is-ddeddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru) wedi’u cyhoeddi.
Y mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn edrych ar oblygiadau ariannol y Mesur arfaethedig ac y mae’n dod i’r casgliad nad oes yna wrthwynebiadau ar sail ariannol i’r Mesur arfaethedig fynd rhagddo er y diben y bwriedir iddo ar hyn o bryd.
Y mae adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn edrych ar briodoldeb darpariaethau’r is-ddeddfwriaeth yn y Mesur arfaethedig ac y mae’n rhoi gerbron amryw o argymhellion.
Fe fydd y Mesur arfaethedig yn darparu hawliau i blant a phobl ifanc wneud apeliadau a hawliadau o ran anghenion addysgol arbennig (AAA) o gamwahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys AAA Cymru.