Y mae adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi canfod bod gofal mamolaeth yn gyffredinol yn cyrraedd safon briodol ond y mae yna wahaniaethau annerbyniol ledled Cymru.
Y mae’r adroddiad yn amlygu rhai problemau penodol, yn cynnwys y ffordd y mae’r esgor yn cael ei reoli mewn rhai ymddiriedolaethau, ac anfodlonrwydd gyda chefnogaeth ar gyfer bwydo babanod. Fe wnaeth arolwg o famau newydd ddangos mai er yr oedd llawer yn fodlon gyda’u profiad, fe deimlai lleiafrif arwyddocaol nad oeddynt bob amser yn cael eu trin gydag urddas a pharch neu garedigrwydd a dealltwriaeth.
Y mae’r adroddiad yn galw ar i Lywodraeth y Cynulliad ddatblygu strategaeth gyffredinol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru.
Y mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru.