Fe ddywed adroddiad, a gyhoeddwyd ar y cyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth, mai pobl ifanc, y sawl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig a dynion sydd wedi dioddef y codiadau mwyaf mewn diweithdra yn y dirwasgiad hyd yn hyn.
Y mae’r adroddiad, ‘Monitro effaith y dirwasgiad ar amrywiol grwpiau demograffig’, yn cwmpasu chwarter cyntaf 2009, ac y mae’n edrych ar effaith y dirwasgiad ledled grwpiau, yn ôl oedran, rhyw, hil ac anabledd.
Y mae 16.2 y cant – neu un o bob chwech – o bobl ifanc 18-24 mlwydd oed ar hyn o bryd yn ddi-waith, o gymharu â 12 y cant yr un cyfnod ‘llynedd.
Y mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.