Y mae’r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai wedi cyhoeddi cyfarwyddiad ar y defnydd o gadw ar remánd yn y ddalfa yng Nghymru a Lloegr.
Fe ddywed yr adroddiad fod nifer y plant yn y saith mlynedd diwethaf sydd wedi’u cadw ar remánd yn y ddalfa wedi cynyddu 41 y cant, ac y bydd tri-chwarter y bobl ifanc o dan 18 oed y gwrthodir mechnïaeth iddynt yn ddiweddarach yn naill ai’n cael eu canfod yn ddieuog mewn treial neu’n derbyn dedfrydau cymunedol.
Y mae’r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn galw am adolygiad Gweinidogol o’r gyfundrefn.
Y mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai.