Y mae’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant wedi cyhoeddi ymchwil sy’n gwerthuso’r cysylltiad rhwng camdriniaeth o blant a hunanladdiad yn ystod plentyndod neu’n ddiweddarach mewn bywyd, ac y mae’n edrych ar ffactorau risg eraill sy’n bresennol yn ystod plentyndod a blaenlencyndod cynnar sy’n debygol o ddwysáu effeithiau’r cyfryw gamdriniaeth.
Y mae’r ymchwil yn awgrymu bod meddwl am a chynllunio hunanladdiad yn ddigwyddiad cyffredin ymysg plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o gamdriniaeth. Y mae yna gysylltiadau cryf, yn enwedig rhwng camdriniaeth rywiol, bwlio ac ymdrechion i gyflawni hunanladdiad.