Y mae’r adroddiad hwn oddi wrth Uned Tlodi Plant y Deyrnas Unedig yn ystyried sut y gall gwasanaethau lleol leihau tlodi ymysg plant drwy gynorthwyo teuluoedd tlawd i gael at y budd-daliadau a’r credydau treth y mae ganddynt hawl iddynt.
Y mae’n cynnwys camau y gall awdurdodau lleol a phartneriaid eu cymryd yn awr i gynyddu incymau teuluoedd, astudiaethau achos o ymagweddiadau llwyddiannus ac argymhellion i’r Llywodraeth ynglŷn â sut i gefnogi gwasanaethau lleol i gynyddu’r nifer sy’n cael at fudd-daliadau.
Y mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.