Y mae Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad mewn ymateb i ddeiseb, a wnaeth alw am i’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) gael ei seilio ar incymau myfyrwyr unigol, yn hytrach nag ar incymau aelwyd y rhieni.
Fe wnaeth y prif ddeisebwr, Catrin Anne Davies o Sir y Fflint, ddadlau bod pobl ifanc dros 16 mlwydd oed yn cael eu hystyried yn oedolion gan eu rhieni, ac felly nid ydynt bob amser yn cael eu cymorth yn ariannol ganddynt. Felly, fe ddylai cymhwysedd ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg gael ei seilio ar incwm yr unigolyn, yn hytrach nag ar incwm eu rhieni.
Fodd bynnag, fe ddaeth y Pwyllgor i’r casgliad y byddai ymestyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg i fod yn fudd hollgyffredinol yn golygu y byddai’n rhaid ymledu adnoddau cyfyngedig yn deneuach, ac felly ni fyddent o gymaint o fudd i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel.
Y mae argymhellion eraill oddi wrth y Pwyllgor yn cynnwys: