Yn ôl adroddiad newydd a cyhoeddwyd gan Estyn, mae safonau addysgu mathemateg mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yn gwella ar y cyfan, ond nid yw llawer o ysgolion yn rhoi digon o her i ddisgyblion weithio i’w llawn botensial.
Adroddodd arolygwyr fod arwyddion cynnar yn dangos bod cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen, gyda phwyslais ar ddysgu ymarferol, yn helpu i godi safonau cyflawniad, yn arbennig ar gyfer bechgyn sy’n cael mathemateg yn heriol.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai staff ymestyn eu dealltwriaeth o fathemateg fel y gallant nodi’n well yr hyn y mae angen i ddisgyblion ei ddysgu nesaf, ac yn cynnig y dylai ysgolion rannu mwy o arfer dda.
Mae’r adroddiad ar gael i lawrlwytho oddi ar wefan Estyn.