Y mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad o’i ymchwiliad i rianta ac i’r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Rhianta Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Fe gyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Rhianta ym mis Rhagfyr 2005. Yr oedd y Cynllun yn ceisio â sicrhau bod rhieni yng Nghymru yn cael y cyngor a’r gefnogaeth y mae arnynt angen, drwy amlinellu’r hyn yr oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu’i wneud dros rieni hyd at fis Mawrth 2008.
Fe gymerodd y Pwyllgor dystiolaeth oddi wrth amrywiaeth o dystion, yn cynnwys y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau; awdurdodau lleol; mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio gyda rhieni, plant a phobl ifanc; grwpiau rhwydwaith rhieni; a hwyluswyr sgiliau rhianta.
Y mae’r adroddiad yn cynnwys 11 o argymhellion, yn cynnwys:
Y mae’r adroddiad, a fersiwn gryno, ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.