Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan yr ymgyrch Race for Justice, y mae gan sector ieuenctid pobl groenddu a lleiafrifoedd ethnig swyddogaeth "ddichonol hanfodol" gyda goresgyn y ffaith fod pobl ifanc croenddu a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu gorgynrychioli yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol.
Y mae’r adroddiad yn galw ar y llywodraeth ac awdurdodau lleol i gomisiynu sefydliadau trydydd sector o’r tu fewn i gymunedau’r bobl groenddu a lleiafrifoedd ethnig i wneud gwaith ataliol, ac y mae’n gofyn i’r llywodraeth adolygu dedfrydau yn y gymuned er mwyn sicrhau’u bod yn sensitif i anghenion grwpiau pobl groenddu a lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig pobl ifanc.
Y mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Clinks.