Y mae’r astudiaeth hon yn darparu trosolwg, cyfosodiad a dadansoddiad o ymchwil a thystiolaethau eraill ar ‘ofalwyr ieuainc’ a ‘gofalwyr sy’n oedolion ieuainc’ yn y Deyrnas Unedig.
Yn ôl yr adroddiad, y mae gofalwyr sy’n 18 i 24 mlwydd oed ar eu colled wrth fethu â chael y cymorth a gynigir i blant a gofalwyr sy’n oedolion.
Fe gomisiynwyd yr adolygiad gan y Comisiwn dros Gymunedau Gwledig ac fe’i cyhoeddir gan Brifysgol Nottingham.
Y mae’r ddogfen ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Comisiwn dros Gymunedau Gwledig.