Y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi adroddiad ar Ending child poverty: 'Thinking 2020' - report and think-pieces from the Child Poverty Unit conference.
Y mae’r adroddiad yn crynhoi digwyddiad a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2008, a oedd â’r bwriad o ddechrau trafodaeth gyda rhanddeiliaid ynglŷn â sut y gallai tlodi ymysg plant gael ei ddileu yn y Deyrnas Unedig erbyn 2020.
Y mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys pedwar o ddarnau i gnoi cil arnynt ynglŷn â chymorth ariannol, cyflogaeth, cymunedau a chyfleoedd bywyd i blant.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.