Y mae mwy na thraean o bobl yn credu na ddylai cyplau lesbaidd a hoyw a phobl sengl gael eu caniatáu i fabwysiadu, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd gan yr elusen Gweithredu dros Blant.
Fe ganfu’r arolwg o 1000 o oedolion fod mwy nag wyth o bob deg a gredai na ddylid caniatáu i gyplau hoyw a phobl sengl fabwysiadu wedi dweud bod hynny oherwydd eu bod yn credu bod ar blant angen delfryd ymddwyn gwrywaidd a benywaidd, ill dau. Fe deimlai mwy na thri chwarter y byddai’n arwain at chwalu’r teulu traddodiadol ac na fyddai er budd gorau’r plentyn.
Fe ddywedodd yr elusen fod yr arolwg wedi datgelu "agweddau cynhenid cryf" ymysg rhannau o’r cyhoedd ynglŷn â phwy ddylai ac na ddylai allu mabwysiadu.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gweithredu dros Blant.