Cyhoeddwyd adroddiad gan Estyn, sef arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, ar y modd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynllunio ac yn monitro ansawdd y ddarpariaeth i ddisgyblion ag anghenion arbennig cymhleth mewn ysgolion arbennig annibynnol â darpariaeth breswyl 52 wythnos gysylltiedig.
Canfu arolygwyr nad yw’r ystod gymhleth iawn o anghenion arbennig sydd gan y disgyblion hyn yn cael eu diwallu’n dda yn y lleoliadau hyn, i’r rhan fwyaf o ddisgyblion. Mae awdurdodau lleol yn canolbwyntio’n rhy aml ar ddod o hyd i ysgol sy’n gallu diwallu anghenion mwyaf heriol y disgyblion, sydd yn aml yn anghenion ymddygiad, yn hytrach na’n asesu holl anghenion cymhleth disgyblion a gwneud yn siwr y gall yr ysgol ddiwallu’r rhain i gyd.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad llawn oddi ar wefan Estyn.