Fe wnaeth y prosiect hwn gan y felin drafod Foresight edrych ar sut y mae adnoddau meddyliol person yn newid drwy gydol bywyd, ac y mae’n nodi ffactorau a all gynorthwyo neu lesteirio’u datblygiad.
Y mae’r adroddiad terfynol yn dangos bod yna achos pendant dros weithredu ledled cymdeithas, yn cynnwys gan y Llywodraeth, cwmnïau ac unigolion i roi hwb i gaffaeliad a lles meddyliol, fel ei gilydd. Fe allai hyn fedi buddion economaidd a chymdeithasol uchel iawn yn y dyfodol. Gan ddefnyddio mwy na 100 o bapurau arbenigol, y mae’r adroddiad yn nodi tri maes allweddol y mae angen mynd i’r afael â hwynt.
Y rhain yw dysgu yn y blynyddoedd cynnar, lles yn y gwaith, a’r boblogaeth sy’n heneiddio.
Y mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar wefan Foresight.