Y mae plant sy’n cael profiad o dri neu fwy o ddigwyddiadau ingol bywyd, megis profedigaeth yn y teulu, ysgariad neu waeledd difrifol, yn sylweddol fwy tebygol o ddatblygu anhwylderau emosiynol ac ymddygiadol, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Fe wnaeth yr astudiaeth dair blynedd ddilyn hynt lles emosiynol sampl o blant a phobl ifanc rhwng 2004 a 2007, ac fe wnaeth adolygu’r ffactorau sy’n debygol o gael eu cysylltu â dechreuad neu hirbarhad anhwylderau.
Fe ganfu fod tri y cant o blant nad oedd ganddynt anhwylder emosiynol neu ymddygiadol yn 2004 wedi datblygu un erbyn 2007, gyda nodweddion teuluol, y cartref a nodweddion cymdeithasol â chysylltiad cryf â dechreuad un neu fwy o anhwylderau.
Y mae’r datganiad newyddion a’r adroddiad llawn ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.