Y mae Adran Iechyd y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi adroddiad sy’n amlinellu’r newidiadau yn natur a chydbwysedd hysbysebu a hyrwyddo bwyd a diod i blant, o fis Ionawr 2003 i fis Rhagfyr 2007.
Y mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r cyfyngiadau cyfredol ar gyfer y cyfryngau darlledu a’r cyfryngau nad ydynt yn darlledu; canfyddiadau ymchwil Thomson Intermedia ar wariant ar hysbysebu bwyd a diod cyffredinol ledled ystod o gyfryngau, gwariant ar hysbysebu sydd â themâu i blant, a ffigurau am y nifer sy’n gwylio teledu; a chynnyrch y Fforwm Hysbysebu a Hyrwyddo Bwyd a Diod.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan yr Adran Iechyd.