Hwn yw’r adroddiad ymchwil sy’n ystyried y rhwystrau rhag hawlio Budd-dal Treth Cyngor (BTC) a Budd-dal Tai yng Nghymru. Fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu gweithgor i ymchwilio i’r rhwystrau rhag hawlio BTC yng Nghymru ac i amlygu a hyrwyddo arferion gorau, yn seiliedig ar brofiad yr awdurdodau lleol sydd wedi bod yn llwyddiannus yn cynyddu’r nifer sy’n hawlio BTC yn y blynyddoedd diwethaf.
Ledled y Deyrnas Unedig, y mae gan deuluoedd gyda phlant lefel neilltuol o isel o ran hawlio’r budd-daliadau hyn o gymharu â grwpiau eraill.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe ellir gweld sylwadau oddi wrth y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, y Dr Brian Gibbons, yn ei ddatganiad i’r wasg ar y 6ed o Hydref 2008.