Y mae Ymddiriedolaeth Shaw wedi cyhoeddi adroddiad ynglŷn â’r ffordd orau o gymorth pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu i bontio i gyflogaeth.
Y mae’r ymchwil, a gyllidir drwy Gronfa’r Loteri Fawr, ac sy’n cael ei gynnal gan Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn edrych yn fanwl ar y rhwystrau rhag addysg a chyflogaeth a wynebir gan bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu, llwyddiant yr ystod gyfredol o raglenni sydd ar gael, a ffyrdd o gau bylchau’r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y grŵp hwn o bobl ifanc.
Y mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Ymddiriedolaeth Shaw.