Y mae Gweithredu dros Blant wedi cyhoeddi adroddiad sy’n archwilio un mlynedd ar hugain o bolisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn y Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth yr adroddiad ddangos bod yna ddau ddarn newydd o ddeddfwriaeth wedi bod yn ystod oes person un ar hugain mlwydd oed yng Nghymru ar gyfer Cymru yn unig a 24 sy’n ymdrin â Chymru a Lloegr, ac 11 o ffrydiau cyllido newydd. Ers datganoli, y mae yna 24 o strategaethau newydd wedi bod sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.
Y mae Gweithredu dros Blant yn galw am gyfundrefn wleidyddol sy’n rhoi anghenion hirdymor plant yn gyntaf a gwleidyddiaeth fyrdymor yn ail.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan Gweithredu dros Blant.