Y mae’r Gymdeithas Frenhinol wedi cyhoeddi adroddiad ar gyfranogaeth a chyrhaeddiad pobl ifanc 14-19 mlwydd oed mewn gwyddoniaeth a mathemateg yn y Deyrnas Unedig, 1996-2007. Y mae’r adroddiad yn canfod bod diwygiadau addysgol sylweddol dros y deuddeng mlynedd diwethaf wedi cael ond ychydig o effaith ar godi nifer y myfyrwyr sy’n astudio mathemateg a gwyddoniaeth mewn addysg ôl-orfodol; ac y mae’n dadlau bod yn rhaid seilio diwygiadau addysgol ar anghenion addysg yn hytrach nag ar ddibenion gwleidyddol byrdymor.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan y Gymdeithas Frenhinol.