Y mae’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi adroddiad sy’n disgrifio’r gyfundrefn gofal fel ‘ffynhonnell gwarth cenedlaethol’.
Fe ddywed y seiat doethion, a gadeiriwyd gan gyn-arweinydd y Blaid Geidwadol, Iain Duncan-Smith, y dylai plant dan ofal gael yr hawl i erlyn awdurdodau lleol os ydynt yn methu â’u darparu hwynt gyda magwraeth ac addysg foddhaol.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi ar wefan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol.