Y mae dau gyhoeddiad newydd ar gael yng nghyfres Plant yn yr Alban, ‘Building better childhoods: international perspectives’.
Young children in charge: a small Italian community with big ideas for children
Fe’i seilir ar ymweliad astudio yn 2008 â San Miniato, ble y mae gwerthoedd nerthol, megis cred yng nghymhwysedd y plentyn a rôl ganolog cyfranogaeth y teulu yn cymell pob agwedd o ddarparu gwasanaeth ar gyfer plant o dan dair blwydd oed. Y mae’n cynnig darlun trawiadol o sut y mae’r gwerthoedd beiddgar hyn, sy’n mynd y tu hwnt i 0-3 ac y gellir eu cymhwyso i holl ddysgu, yn cael eu trosi i ymarfer.
Adventures in nature
Fe’i ysgrifennwyd gan athrawon meithrin sy’n adrodd eu profiad o brosiect i wneud y mwyaf o’u hamgylchoedd naturiol lleol, ac wrth wneud hynny yn datblygu ymdeimlad plant ieuainc o annibyniaeth, hyder a hunan-barch. Y mae’r anturiaethau dringo creigiau, ogofa, rafftio ar afonydd a chyfeiriannu yn cael eu cofnodi gyda lefel nodedig o fanylder ac angerdd a thystiolaeth o gred athrawon yng ngalluoedd a photensial arbennig plant ieuainc.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Plant yn yr Alban.